
Coed Tân / Tanwydd Coed - O Ble Maen Nhw’n Dod?
Daw rhywfaint o’r coed, derw yn bennaf, o'n coetir llydanddail ein hunain. Mae'r coetir hwn yn cael ei reoli mewn dull anfasnachol, gyda'r pwyslais ar hybu bioamrywiaeth a bywyd gwyllt, yn enwedig blodau, adar ac ystlumod y coetir.
Mae'r deunydd sy'n cael ei losgi fel coed tân, fel arfer yn bren o ansawdd gwael neu 'radd isel' sy’n anaddas ar gyfer adeiladu, dodrefn, ffensys neu opsiynau hirdymor eraill.
Mae'r deunydd 'crai' neu 'sylfaen' yn deillio o nifer o ffynonellau. Gall fod yn gynnyrch 'sylfaenol', o ganlyniad i waith rheoli coetir wedi’i drefnu e.e. 'cwympo llannerch fach' neu' deneuo', neu gall fod yn eilradd neu’n 'sgil-gynnyrch', fel y deunydd a geir wrth 'drin coed' neu dasgau coedyddiaeth, a elwir weithiau'n 'wastraff’.
Weithiau gall coed a choedwigoedd gael eu difrodi gan wyntoedd cryfion a stormydd, gan arwain at goed a changhennau’n cwympo, a ddisgrifir fel rhai sydd 'wedi cwympo ar ôl gwynt'. Mae’n bosibl defnyddio llawer o’r pren a geir o’r coed sydd wedi cwympo.
Fel arfer mae'r pren gorau yn cael ei anfon i felin lifio i'w dorri'n estyll a thrawstiau. Pan anfonir y boncyffion crwn y tro cyntaf drwy lif caiff ffynhonnell arall o danwydd coed ei chreu. Mae'r llifiwr yn torri’r rhannau allanol neu fwy garw y coed, er mwyn mynd at y pren mewnol neu’r 'rhuddin' sydd o ansawdd gwell. Bydd y darnau hyn, a elwir yn 'slabiau' neu 'rannau allanol', yn sychu'n gyflym, yna gellir eu gwerthu fel coed tân.
O’u rheoli’n gynaliadwy, gall coetiroedd a choedwigoedd ddarparu llawer o fathau o ddeunydd coediog, a all, os caiff ei dorri o dyfiant ‘cynyddrannol’ (hy faint o bren y mae’r goeden wedi’i dyfu mewn blwyddyn) ddarparu cyflenwad parhaus, heb leihau cyfaint y pren sydd ynddynt. Gall gael llawer o effeithiau buddiol, heb niweidio'r amgylchedd, gan, yn aml, wella bywyd gwyllt a chynyddu bio-amrywiaeth.
Pan fydd coetiroedd yn cael eu rheoli'n gynaliadwy, daw pren ar gael o ganlyniad i weithgareddau rheoli coedwigoedd megis teneuo a phrysgoedio. Mae teneuo'n cael ei wneud pan fydd y gwagle rhwng y coed yn mynd yn dynn ac yn orlawn, gan gyfyngu ar dyfiant. Un ateb yw cael gwared ar y sbesimenau tlotach, gan adael lle i goed o ansawdd gwell dyfu'n fwy ac yn fwy syth, efallai, yn y pen draw, yn cael eu defnyddio fel deunydd wedi'i lifio a ddefnyddir ar gyfer dodrefn a defnyddiau hirdymor eraill megis adeiladu.
O dan yr amgylchiadau hyn, mae'r carbon sydd yn y pren yn cael ei 'gloi' am gyhyd ag y bo modd, efallai dim ond yn cael ei ryddhau eto ar ôl blynyddoedd lawer, efallai pan fydd canrifoedd wedi mynd heibio. Mae 'dalfa garbon' dda yn cael ei chreu o goed ifanc sy'n tyfu'n gyflym, yn enwedig ar ôl cynaeafu pren hŷn, a gadael i'r bôn sy'n weddill ail-dyfu, fel sy'n digwydd gyda 'phrysgoedio'.